Arddangosfa / 22 Medi – 28 Hyd 2023

L'homme en objet et en animal / Nimissa - Elysium Gallery

Fatoumata Diabaté

Mae’r arddangosfa hon, sy’n gydweithrediad rhwng Elysium a Ffotogallery, yn arddangos gwaith diweddar gan Fatoumata Diabaté, ffotograffydd o Bamako ym Mali. Mae gan Fatoumata ddiddordeb arbennig yn y lle sydd gan ferched mewn cymdeithas, ac mae hi’n llywydd yr Association des Femmes Photographes du Mali. Mae ei gwaith wedi cael ei arddangos yn eang mewn arddangosfeydd solo a grŵp ac mae hi wedi derbyn nifer o wobrau.

Ochr yn ochr â’i phortreadau breuddwydiol a chyfareddol sydd wedi eu hysbrydoli gan chwedloniaeth a straeon tylwyth teg o’i phlentyndod, L’homme en object et L’homme en animal, mae’r arddangosfa hon yn dangos Nimissa (sy’n golygu edifarhau yn yr iaith Bambara) yn y DU am y tro cyntaf. Trwy hanes cyffredin nifer o fenywod sydd, fel yr artist, wedi dioddef anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM), mae’r delweddau sydd yn Nimissa yn cyfrannu at broses o ail adeiladu hunaniaeth fenywaidd coll, a ladratwyd oddi wrth hunan personol sydd wedi diflannu.

Gwelwch wefan Oriel Elysium i gael mwy o fanylion.

Proffil Artist

Portread o Fatoumata Diabaté

Fatoumata Diabaté

Ganed Fatoumata Diabaté yn Mali yn 1980 ac mae wedi cael ei gwahodd i nifer o wyliau o amgylch y byd ac wedi ennill nifer o wobrau. Mae hi’n cymryd rhan yn y “Rencontres photographiques de Bamako", yng ngŵyl ffotograffau "La
Gallicy", y Rencontres d’Arles a’r Biennale de Dakar. Mae ei gwaith i’w weld mewn llawer o arddangosiadau grŵp ac unigol yn Mali, Ffrainc ac yn rhyngwladol. Yn ei hieuenctid, roedd hi’n gynorthwyydd i Malick Sidibé ac, yn 2013, creodd ‘Le Studio Photo de la Rue, sef stiwdio ffotograffig deithiol sy’n cael ei gwahodd gan lawer o fannau a gwyliau diwylliannol, a’r Cartier Foundation ym Mharis yn arbennig. Mae ei gwaith wedi ymddangos mewn nifer o wahanol orielau, yn fwy diweddar Oriel 31Project yn Ne Affrica. Cafodd ei henwi’n enillydd 2020 Preswylfeydd Ffotograffig Amgueddfa Quai Branly y mae eu prosiect newydd fod ar waith yn Mali ac sy’n ymwneud ag enwaediad merched. Mae hi’n rhannu ei hamser rhwng Montpellier yn Ffrainc a Bamako yn Mali."