Arddangosfa / 24 Tach – 3 Chwef 2024

Ffocws 2023

Alice Forde, Emma Spreadborough, Jean Chan, Katie Nia, Mareah Ali, Megan Morgan, Robin Chaddah-Duke, Shannon Maggie, Shaun Lowde, Viv Collis, Ffion Denman, Jack Moyse, Kaylee Francis, Tracy Harris

Rhagolwg o'r arddangosfa: Dydd Iau 23 Tachwedd, 6 - 9pm

Mae’r arddangosfa’n parhau tan 12 Ionawr 2024, ac yn agored Dydd Mercher – Sadwrn, 12 – 5 pm.

Mae Ffocws yn rhan o genhadaeth Ffotogallery i gefnogi artistiaid yng Nghymru sy’n dod i’r amlwg neu sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd ac sy’n herio proses a chyfrwng ffotograffiaeth a’r ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio. Ar gyfer detholiad eleni, aethom ati i arolygu graddedigion diweddar ar draws y wlad yn ogystal ag artistiaid uchelgeisiol drwy alwad agored mewn cydweithrediad â Cardiff MADE (Higgins mewn Ffocws).

Mae’r arddangosfa’n dod â gwaith pedwar ar ddeg o artistiaid dawnus at ei gilydd gan gyffwrdd â themâu gwahanol yn amrywio o hunaniaeth, teulu, mudo ac anabledd i ddeallusrwydd artiffisial ac arferion celf cymunedol. Mae’r safbwyntiau unigol eang sy’n cael eu harddangos yn ein hatgoffa am y cyfleoedd creadigol y mae ffotograffiaeth yn eu cynnig ar gyfer cysylltu pobl â’i gilydd yn ein byd newidiol ac anodd ei ragweld.

Ni fyddai’r arddangosfa hon wedi bod yn bosibl heb haelioni ein cefnogwyr, yn arbennig Coleg Celf Abertawe (PCDDS), Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, Ysgol Gelf Caerfyrddin yng Ngholeg Sir Gâr, Coleg Caerdydd a’r Fro a Chyngor Celfyddydau Cymru.

Proffil Artistiaid

Portread o Alice Forde

Alice Forde

Mae amwysedd yn ffocws yn fy ngweledigaeth greadigol. Rwy’n teimlo bod elfen chwareus mewn gwneud fy ffotograffiaeth yn gwestiwn ac nid datganiad. Ffasiwn yw’r catalydd sy’n gadael i mi wneud hyn gan hefyd archwilio diwylliant, cysylltiadau dynol a’u hymddygiad yn fy ngwaith ffotograffig egnïol a gweledol arbrofol. Am fy mod newydd raddio gyda BA mewn Ffotograffiaeth o Brifysgol De Cymru rwy’n edrych ymlaen at gael mwy o brofiad mewn ffotograffiaeth ffasiwn olygyddol sy’n canolbwyntio’n arbennig ar gyhoeddiadau a chreu cyrff ffisegol o waith.

Portread o Emma Spreadborough

Emma Spreadborough

Mae Emma Spreadborough (g.2000) yn artist Gwyddelig sy’n gweithio’n bennaf yn y cyfryngau ffotograffig. Mae ei gwaith celf wedi ei ddylanwadu’n fawr gan lenyddiaeth, hanes a chwedloniaeth Iwerddon. Graddiodd Emma yn ddiweddar o Goleg Celf Abertawe, lle astudiodd o 2020 hyd 2023. Ers iddi raddio, mae hi wedi symud yn ôl i Belfast i barhau ei gwaith. Ar hyn o bryd mae hi’n berchen ar stiwdio ynFlax Art Studios, yn yRhaglen Artistiaid Datblygol.

Portread o Jean Chan

Jean Chan

Fel ffotograffydd, rwy’n caru ac yn tueddu i ddewis Ffotograffiaeth Celf a Ffasiwn. Trwy gydol fy mlynyddoedd yn y brifysgol, datblygais ddiddordeb mawr mewn Ffotograffeg Naratif a Sinematograffeg ac yn awr rwy’n tueddu i gymysgu’r genres hyn mewn prosiectau a gymeraf. Trwy gyfrwng ‘Burnout’ rwyf eisiau siarad â’r gwyliwr a chyfathrebu cymysgedd o’r synhwyrau tristwch a serenedd. Er mwyn iddynt ganfod elfennau y gallent uniaethu â nhw yn y gweledigaethau hyn a theimlo cysur wrth wylio.

Portread o Katie Nia

Katie Nia

Mae Katie Nia yn Artist Ffotograffig wedi ei seilio yn Ne Cymru, sy’n chwilfrydig am hanes. Canfu Nia ei bod wedi ei chyfareddu nid yn unig gan ddatblygiad ffotograffiaeth i’r hyn ydyw heddiw, ond hefyd gyda’r prosesau analog oedd wedi helpu i’n cymryd ni yno. Erbyn hyn mae hi’n defnyddio ei gwaith i arbrofi ac archwilio’r dulliau a’r prosesau ffotograffig o adegau mor gynnar â’r 1800au i gyfuno’r dyfodol â’r gorffennol, gan roi bywyd i rai o’r arferion sydd wedi mynd yn angof. Mae Nia yn cymryd ei hysbrydoliaeth o ddigwyddiadau seicolegol, yn ymwybodol ac yn is-ymwybodol, ac yn archwilio eu cysylltiadau o fewn ei bywyd ei hun yn awr ac yn y gorffennol. Mae Nia yn defnyddio ei gwaith i ddarlunio arwyddocâd ac ystyr drwy ysbrydoliaeth cysyniad Walter Benjamin o ‘awra’ yn ogystal â Jacques Derrida a’i syniad o hiraeth, gan archwilio eu heffaith nid yn unig yn ei bywyd ei hun ond hefyd gyda’r rheiny o’i chwmpas.

Portread o Mareah Ali

Mareah Ali

Mae Mareah Ali yn ffotograffydd o Gymru a aned yn ddwys-fyddar. Graddiodd yn ddiweddar o Brifysgol De Cymru yng Nghaerdydd gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Ffotograffeg. Daeth o hyd i ffotograffeg fel ffordd o’i mynegi ei hun, yn arbennig o amgylch materion byddardod. Ar ôl graddio, cafodd ei gwaith ei arddangos yn oriel StudioMADE yn Ninbych, Gogledd Cymru.

Mae Mareah hefyd wedi cysylltu a gweithio fel ffotograffydd gydag ymarferwyr creadigol sy’n clywed ac sy’n fyddar, yn cynnwys yr artist Johnny Cotsen a Chwmni Theatr Taking Flight. Mae hi hefyd wedi gweithio gydag Elusen Canser Syr Gareth Edwards.

Portread o Megan Morgan

Megan Morgan

Mae Megan Morgan yn ffotograffydd digidol sy’n gweithio o Sir Benfro, Cymru ac sy’n raddedig o ysgol gelf Coleg Sir Gâr gyda BA mewn ffotograffeg amlddigysblaethol a dylunio 3d. Mae diddordebau Megan mewn ffotograffeg anifeiliaid ac mae hi’n defnyddio ei chariad at anifeiliaid i yrru ei chreadigedd. Yr hyn sy’n ei chyfareddu yw’r cysylltiad sydd gan bobl ac anifeiliaid â’i gilydd, ac mor bwysig yw’r cysylltiad hwnnw, ac mae hi’n defnyddio’r lens i dynnu llun anifeiliaid prydferth y byd. O weithio mewn fferm ffoli, mae ei ffotograffeg yn amrywiol – o gathod bach i deigrod, nid yw’n anghofio unrhyw un.

Portread o Robin Chaddah-Duke

Robin Chaddah-Duke

Mae Robin Chaddah-Duke yn ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau sy’n gweithio gyda dull dogfennol llawr gwlad. Mae ei waith yn ymwneud ag archwilio profiadau cymunedau lleiafrifol a chymunedau wedi eu hymyleiddio ym Mhrydain ac mae wedi ei seilio mewn cyd-destunau hanesyddol. Ei nod yw archwilio sut mae syniadau am Brydeindod yn newid.

Portread o Shannon Maggie

Shannon Maggie

Mae Shannon Maggie yn ffotograffydd ac artist cyfryngau cymysg chwilfrydig sy’n gweithio yn Sir Benfro, De-orllewin Cymru. Mae gwaith Shannon Maggie yn archwilio materion diwylliannol yn ymwneud â hanes, hunaniaeth, a normau cymdeithasol. Prosesau sy’n gyrru ei gwaith, wrth iddi archwilio ffyrdd newydd o gyfathrebu athroniaethau am y profiad dynol. Mae Maggie yn hyrwyddwr gweithdai sy’n annog cyfranogwyr i groesawu’r elfennau amherffaith yn eu delweddau i feithrin naratifau newydd. Mae cydweithredu â’r gymuned wrth wraidd gwaith Maggie. Mae hi’n gobeithio annog pobl eraill i wthio eu ffiniau creadigol drwy gyfrwng ffotograffiaeth.

Portread o Shaun Lowde

Shaun Lowde

Yn dilyn gyrfa fel cyfreithiwr i gleientiaid rhyngwladol ym myd adloniant a’r cyfryngau, mae Shaun Lowde wedi newid cyfeiriad ei yrfa’n ddiweddar ac mae’n rhoi cynnig ar faes newydd fel ffotograffydd ac artist cynnwys digidol yn awr yng Ngorllewin Cymru.

Mae gwaith Shaun wedi esblygu’n archwiliad o gynnwys digidol fel ffordd o gyfathrebu’r cysyniadol. Mae’n defnyddio amrywiaeth o brosesau digidol a ffotograffig i wneud sylwadau am faterion athronyddol, amgylcheddol a chymdeithasol cyfoes.

Mae Shaun wedi graddio’n ddiweddar gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Ffotograffeg o Goleg Sir Gâr (Carmarthenshire School of Art). Mae ei waith wedi ymddangos mewn arddangosfeydd, cylchgronau a chyhoeddiadau ar-lein. Mae wedi ennill, ac wedi bod ar y rhestr fer ar gyfer nifer o wahanol wobrwyon.

Portread o Viv Collis

Viv Collis

Mae Viv Collis yn byw ac yn gweithio yn Ne-orllewin Cymru. Wedi iddi gael gyrfa sylweddol fel Gweithiwr Ieuenctid a Chymuned, aeth yn ei blaen i astudio BA mewn Ffotonewyddiaduraeth ac Ymgyrchedd Gweledol, yna MA mewn Deialogau Cyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe. Mae ymwneud estynedig Viv yn y gymuned yn dylanwadu ar ei gwaith, ac mae ei harferion celfyddydol yn canolbwyntio ar ddogfennaeth gymdeithasol, yn archwilio’r bobl sydd heb eu cynrychioli’n ddigonol neu’n gywir, a grwpiau amrywiol yn y gymuned. Mae ei phrosiectau’n cychwyn gydag ymchwil manwl o ddeunyddiau archif a chyfredol, wedi eu cychwyn yn aml gan fater gwleidyddol cyfredol, ac yn datblygu drwy gyfranogaeth gritigol â’r pwnc drwy rwydweithio, cyfweliadau ac ymgysylltiad personol a chyfranogol. Mae’r gwaith wedi ei blethu â naratif gwleidyddol sydd wedi ei ddylunio i hysbysu a herio’r gwyliwr, ar ffurf adrodd stori gysyniadol, ar lwyfannau niferus.

Portread o Ffion Denman

Ffion Denman

Ffion Denman is a photographer and educator currently living in Cardiff.

My body of work opens up complex conversations on cultural displacement and the values of Welsh identity in Patagonia. The work in progress, goes beyond a romanticised notion of my Patagonia from my childhood imagination and invites onlookers to consider a more nuanced and intricate story; which includes the question of what happens when a dominant culture overshadows a minor, and more vulnerable one.

Portread o Jack Moyse

Jack Moyse

Mae Jack Moyse yn ffotograffydd ac artist sy’n gweithio o Abertawe yn Ne Cymru. Mae ei waith yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol fel demoneiddio mudwyr, ableddiaeth ac iechyd meddwl. Mae Jack wedi derbyn gwahoddiadau i siarad mewn nifer o golegau, prifysgolion, gwyliau ffotograffiaeth a symposia, yn cynnwys Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Abertawe, Ysgol Gelf Caerfyrddin a’r Trauma Porn Symposium ym Mryste (gyda chefnogaeth Grŵp Ymchwil Ffotograffiaeth Bryste). Ym mis Ebrill eleni cafodd ei wahodd i arddangos mewn cynhadledd Iachâd Trwy Ffotograffiaeth, a chyfrannu ynddi, yn Belfast Exposed.

Portread o Kaylee Francis

Kaylee Francis

As a Documentary photographer Kaylee is interested in exploring issues relating to the representation and misrepresentation of lower socio-economic communities. Her work considers the possibilities of using photography and activism for agency and social change.

Portread o Tracy Harris

Tracy Harris

Tracy is an Artist, Writer, Theatre and film-maker based in Cardiff.