Arddangosfa / 10 Gorff – 18 Gorff 2023

Ein Llygaid, Ein Stori

Fis diwethaf, daeth grŵp o ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n mynd i Oasis Caerdydd at ei gilydd i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai ffotograffiaeth. Bu’r criw’n gweithio gyda’r ffotograffydd proffesiynol Dafydd Owen a Ffotogallery i ddysgu am elfennau sylfaenol ffotograffiaeth a defnyddio’r hyn a ddysgwyd ganddynt i dynnu eu lluniau eu hunain.

Mae Ein Llygaid, Ein Stori yn arddangosfa o ganlyniadau’r gweithdai hyn, sy’n rhoi rhywfaint o ddealltwriaeth i ni am y ffordd y mae’r cyfranogwyr yn gweld dinas Caerdydd. Bydd yn digwydd yn yr Hen Lyfrgell yn Yr Aes drwy’r wythnos nesaf i gyd yn rhan o wythnos Ffrinj Tafwyl 2023, gyda digwyddiad agoriadol ar Ddydd Llun 10 Gorffennaf o 7pm.