Digwyddiad / 14 Rhag 2023

Ffocws Online Artist Talk #03

Jean Chan, Katie Nia, Mareah Ali, Shaun Lowde

Hoffem eich gwahodd chi’n gynnes iawn i ymuno â ni ar gyfer cyfres o sgyrsiau gyda’r deg artist a ddewiswyd ar gyfer Ffocws 2023.

Mae Ffocws yn rhan o genhadaeth Ffotogallery i gefnogi artistiaid yng Nghymru sy’n dod i’r amlwg neu sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd ac sy’n herio proses a chyfrwng ffotograffiaeth a’r ffordd y mae’n cael ei ddefnyddio. Ar gyfer detholiad eleni, aethom ati i arolygu graddedigion diweddar ar draws y wlad yn ogystal ag artistiaid uchelgeisiol drwy alwad agored mewn cydweithrediad â Cardiff MADE (Higgins mewn Ffocws).

Ar gyfer y sgwrs olaf hon bydd Jean Chan, Katie Nia, Mareah Ali and Shaun Lowde yn ymuno â ni. Mae rhagor o fanylion yr artistiaid isod, a gallwch archebu eich tocyn am ddim drwy Eventbrite yma.

Proffil Artistiaid

Portread o Jean Chan

Jean Chan

Fel ffotograffydd, rwy’n caru ac yn tueddu i ddewis Ffotograffiaeth Celf a Ffasiwn. Trwy gydol fy mlynyddoedd yn y brifysgol, datblygais ddiddordeb mawr mewn Ffotograffeg Naratif a Sinematograffeg ac yn awr rwy’n tueddu i gymysgu’r genres hyn mewn prosiectau a gymeraf. Trwy gyfrwng ‘Burnout’ rwyf eisiau siarad â’r gwyliwr a chyfathrebu cymysgedd o’r synhwyrau tristwch a serenedd. Er mwyn iddynt ganfod elfennau y gallent uniaethu â nhw yn y gweledigaethau hyn a theimlo cysur wrth wylio.

Portread o Katie Nia

Katie Nia

Mae Katie Nia yn Artist Ffotograffig wedi ei seilio yn Ne Cymru, sy’n chwilfrydig am hanes. Canfu Nia ei bod wedi ei chyfareddu nid yn unig gan ddatblygiad ffotograffiaeth i’r hyn ydyw heddiw, ond hefyd gyda’r prosesau analog oedd wedi helpu i’n cymryd ni yno. Erbyn hyn mae hi’n defnyddio ei gwaith i arbrofi ac archwilio’r dulliau a’r prosesau ffotograffig o adegau mor gynnar â’r 1800au i gyfuno’r dyfodol â’r gorffennol, gan roi bywyd i rai o’r arferion sydd wedi mynd yn angof. Mae Nia yn cymryd ei hysbrydoliaeth o ddigwyddiadau seicolegol, yn ymwybodol ac yn is-ymwybodol, ac yn archwilio eu cysylltiadau o fewn ei bywyd ei hun yn awr ac yn y gorffennol. Mae Nia yn defnyddio ei gwaith i ddarlunio arwyddocâd ac ystyr drwy ysbrydoliaeth cysyniad Walter Benjamin o ‘awra’ yn ogystal â Jacques Derrida a’i syniad o hiraeth, gan archwilio eu heffaith nid yn unig yn ei bywyd ei hun ond hefyd gyda’r rheiny o’i chwmpas.

Portread o Mareah Ali

Mareah Ali

Mae Mareah Ali yn ffotograffydd o Gymru a aned yn ddwys-fyddar. Graddiodd yn ddiweddar o Brifysgol De Cymru yng Nghaerdydd gyda gradd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Ffotograffeg. Daeth o hyd i ffotograffeg fel ffordd o’i mynegi ei hun, yn arbennig o amgylch materion byddardod. Ar ôl graddio, cafodd ei gwaith ei arddangos yn oriel StudioMADE yn Ninbych, Gogledd Cymru.

Mae Mareah hefyd wedi cysylltu a gweithio fel ffotograffydd gydag ymarferwyr creadigol sy’n clywed ac sy’n fyddar, yn cynnwys yr artist Johnny Cotsen a Chwmni Theatr Taking Flight. Mae hi hefyd wedi gweithio gydag Elusen Canser Syr Gareth Edwards.

Portread o Shaun Lowde

Shaun Lowde

Yn dilyn gyrfa fel cyfreithiwr i gleientiaid rhyngwladol ym myd adloniant a’r cyfryngau, mae Shaun Lowde wedi newid cyfeiriad ei yrfa’n ddiweddar ac mae’n rhoi cynnig ar faes newydd fel ffotograffydd ac artist cynnwys digidol yn awr yng Ngorllewin Cymru.

Mae gwaith Shaun wedi esblygu’n archwiliad o gynnwys digidol fel ffordd o gyfathrebu’r cysyniadol. Mae’n defnyddio amrywiaeth o brosesau digidol a ffotograffig i wneud sylwadau am faterion athronyddol, amgylcheddol a chymdeithasol cyfoes.

Mae Shaun wedi graddio’n ddiweddar gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Ffotograffeg o Goleg Sir Gâr (Carmarthenshire School of Art). Mae ei waith wedi ymddangos mewn arddangosfeydd, cylchgronau a chyhoeddiadau ar-lein. Mae wedi ennill, ac wedi bod ar y rhestr fer ar gyfer nifer o wahanol wobrwyon.