Cynorthwydd Marchnata a Chyfathrebu
DIFFUSION: GWYL RYNGWLADOL FFOTOGRAFFIAETH CAERDYDD 2019
Cyfleoedd Interniaeth. Mawrth 1 - Mai 10 2019
Cefndir
Bydd thema Diffusion 2019, sef Sain+Gweledigaeth, yn ymchwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth, a chyfryngau’r lens. Ynghyd a hynny, ymchwilia sut mae trawsyriad, cyflwyniad, a darllediad delweddau o fewn diwylliant gweledol cyfoes yn cael eu dylanwadu gan sain, a sut y gallwch brofi cerddoriaeth ar sail weledol a chlywedol. Fel yn y tair gwyl cyntaf, bydd Diffusion 2019 yn dod a chelf rhyngwladol newydd i Gymru tra hefyd yn arddangos doniau o fewn Cymru. Bydd yn canolbwyntio ar grwp arwyddocaol o ddoniau yn ogystal a pherthnasau y mae Ffotogallery wedi datblygu dros y degawd diwethaf.
Yn debyg i’n gwyliau diwethaf, bydd Diffusion 2019 yn cynnwys mis o arddangosfeydd, sgrinio, perfformiadau, digwyddiadau, a dathliadau, o fewn llefydd a gwageloedd corfforol a gweithredol yn y ddinas. Mae ein cyffro o gyfranogi’n uniongyrchol yn yr wyl ryngwladol yn cynyddu ymhellach diolch i gyhoeddiadau dwyieithog ar bapur ac ar-lein, ar wefannau, ac ar rwydweithiau cymdeithasol.
Cyfleoedd Interniaeathau a Phrofiad Gwaith
Mae Diffusion yn brosiect Ffotogallery ac am bob un o’n argraffiadau dwyflynyddol, rydym wedi ehangu ein tîm. Gwneir hyn drwy ein gwaith gydag artistiaid a thrwy greu partneriaethau yng Nghaerdydd ac ar lefel ryngwladol er mwyn cynnig cyfleoedd gwaith i internwyr, gwirfoddolwyr ac i’r rhai sy’n gweithio i’w hunain. Mae nifer o internwyr a gwirfoddolwyr y gorffennol wedi defnyddio’r profiad fel sylfaen i yrfaoedd llwyddianus o fewn y celfyddydau neu fel modd o ail-gwrdd a’u angerdd at gelf a’r cyfryngau trwy fod yn ran o’r tîm deinamig a chreadigol sydd tu ôl i’r wyl.
Yn ogystal a chyfleoedd gwirfoddoli, mae gennym ychydig o safleoedd interniaethu sy’n talu a sy’n para rhwng 8 a 10 wythnos (yn dibynnu ar y dyddiadau dechrau a gorffen). Maent yn cynnig profiad o fewn pob cam y brosiect rhwng Mawrth 1 a Mai 10 2019. Bydd pob cyllid yn cael eu cyfrifo ar sail £300 yr wythnos, a felly i uchafrif o £3,000 (am 10 wythnos).
Cynorthwydd Marchnata a Chyfathrebu
Gan weithio’n ochr wrth ochr gyda’r Swyddog Marchnata a Chyfathrebu, bydd y rôl yn ffocysi ar gydlyniaeth a darpariad yn y meysydd marchnata, y wasg, y cyfryngau, a gweithgareddau PR sy’n ymwneud a Diffusion. Y nod yw i gynyddu niferoedd yr ymwelwyr, adeiladu ymrwymiad y gynulleidfa a chodi sylw at yr wyl ar sylfaen genedlaethol a rhyngwladol.
Bydd y gwaith yn cynnwys:
- Datblygu cyhoeddiadau ar rwydweithiau cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys creu a chyhoeddi cynnwys sydd wedi ei drefnu, monitro, ac adrodd nol ar symudiadau Twitter, Facebook, Instagram.
- Cynorthwyo at gynnwys, cynhyrchiadau a dosbarthiad deunyddiau print ac ar-lein
- Helpu i hybu Ffotogallery ac i drefnu gweithgareddau
- Darparu gwahoddiadau a gwybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau Diffusion
- Casglu data ac adborth y gynulleidfa ar gyfer gwerthusiadau
- Bydd disgwyl i ddeiliad y swydd fod yn hyderus wrth wneud gwaith cyfathrebu a marchnata, ac wrth weithio o fewn tîm
Sianel
O ddiddordeb pellach
-
ProsiectDiffusion 2019: Sound+Vision
-
OpportunityCynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (Technegol a Gweithredol)
-
OpportunityCynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (Technegol a Gweithredol)
-
OpportunitySANTANDER / CARDIFF MET: Cynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (rhyngweithiad gydag ymwelwyr)
-
OpportunityCynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (Rhyngweithiad Gydag Ymwelwyr)
-
OpportunityCynorthwydd Arddangosfeydd a Digwyddiadau Arbennig (Clywedol a Gweledol & Digidol)