Digwyddiad / 11 Maw 2022

Noson o ffilmiau byrion gan artistiaid a chynhyrchwyr o Gymru

Onismo Muhlanga, Stephen George Jones, John Crerar, João Saramago, Marega Palser, Naz Syed, Claire Sturgess, Ian Smith

Rydym yn cynnal noson o ffilmiau byrion gan artistiaid a chynhyrchwyr o Gymru ar ein sgrin fawr yn ein horiel hyfryd ar Ddydd Gwener 11 Mawrth, 6-9pm. Mae ein cynnig yn cynnwys ffilmiau dogfen, fideos o’r archif, ffuglen, ffilmiau artistiaid o’u gwaith ac am eu bywydau. Mae’n addo bod yn noson ardderchog o ffilmiau a fydd yn dangos rhai o’r bobl greadigol wych sydd i’w cael yma yng Nghymru. Byddai’n braf gan Ffotogallery eich gweld chi yno’n ymuno â ni am y noson a, peidiwch â phoeni, bydd gennym y popgorn yn barod i chi!

6.15pm rise Only beGun - Onismo Muhlanga

6.30pm School Bus Melancholia - Stephen George Jones

6.45pm What Comes Next? - John Crerar

7.10pm The Betrayal Cycle - João Saramago

7.15pm Tripping Through Newport’s Underbelly - Marega Palser

7.25pm The Coat Of Radical Kindness - Naz Syed

7.30pm My Brief Eternity - Claire Sturgess

7.45pm Ancestor Mewn Golau - Onismo Muhlanga

7.50pm Staying/Aros Mae - Zillah Bowes

8.15pm Quilt of Friendship - Lost Connections

8.20pm Unseen - Ian Smith / Auntie Margaret

8.40pm Resurrection - Onismo Muhlanga, Pierre Gashagaza & Jordan Wilson-Alexander


My Brief Eternity - Claire Sturgess

Mae My Brief Eternity yn dogfennu’r broses o greu gwaith artistig olaf Osi Rhys Osmond, y dewisodd ei greu i elusen canser Maggie's.

Mae’r ffilm yn archwilio myfyrdodau Osi am rym celf – ei rôl a’i harwyddocâd yn ei fywyd, ac mor werthfawr ydyw wrth geisio ymdopi a byw gyda chanser. Mae’n rhoi portread personol o feddylfryd yr artist, ei feddyliau a’i deimladau wrth iddo archwilio celf fel prism ar gyfer cofnodi bywyd, a’r broses greadigol fel trosiad am fyw a marw.


The Betrayal Cycle - João Saramago

Mae craith yn brawf byw o ddigwyddiad anodd ond mae hefyd yn atgof o’r hyn a fu a’r hyn y gallwn ei oddef.

Mae The Betrayal Cycle yn gyfres newydd sbon o ymyraethau, o drwsio ac atgyweirio’r dirwedd ddifrodedig a ddogfennwyd i ddatgelu gweithredoedd o frad y ddynoliaeth ac afreswm y fodolaeth ddynol, wedi eu rhannu’n stori strwythuredig i arddangos problemau amgylcheddol fel cyfeiriad awgrymiadol at gysylltiadau personol a chlos.


What Comes Next -John Crerar

Mae What Comes Next? Yn gyfuniad sinematig sydd wedi ei greu’n gyfan gwbl o fideo dogfennol amatur isel ei gost a ffilmiwyd yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd yn dilyn y rhyfel ac yn arwain at, ac yn cynnwys, dathliadau Gŵyl Prydain yn 1951. Mae’r theatr hon o fywyd pob dydd yn rhoi cipolwg i ni ar leoliadau a bywydau oedd, er eu bod yn fân bethau ynddynt eu hunain, yn symbolaidd o ruthr eang o newid a weddnewidiodd wyneb Cymru yn y pen draw a chyflwyno cyfnod o ddiwygiad cymdeithasol, ail adeiladu a moderniaeth ar gefndir o lymder economaidd. Cafodd ei ysbrydoli’n wreiddiol gan ffilmiau dogfennol yr 1920au, a diben y ffilm yw rhoi cipolwg ar yr heriau a wynebwyd gan gymunedau dosbarth gweithiol Cymru oedd yn brwydro i adeiladu dyfodol gwell gan hefyd fyfyrio ar etifeddiaeth gorffennol trefedigaethol Prydain sydd, hyd heddiw, yn parhau i daflu’r cysgodion tywyllaf.

Staying/Aros Mae - Zillah Bowes

Mae Staying / Aros Mae yn ffilm ffuglen fer gan Zillah Bowes yn ffres o’i chyfnod llwyddiannus yn y gwyliau ffilm rhyngwladol lle enillodd wobrau yn Encounters ac Angers Premiers Plans, ymysg eraill. Mae wedi ei seilio yng Nghaerdydd a Chanolbarth Cymru, ac mae’n serennu’r actores a’r gantores o 9Bach, Lisa Jên Brown ac yn cynnwys aelodau o gymuned ffermio mynydd yn Sir Faesyfed, y mae eu dull o fyw yn newid oherwydd yr argyfwng hinsawdd, Brexit ac economi’r DU. Mae’r un gymuned o bobl i’w gweld yng ngwaith Bowes, Green Dark, a arddangoswyd yn Ffotogallery y llynedd.

Mae Ruth, rheolwr oriel newydd ysgaru, wrth werthu ei chartref yn y ddinas, yn gweld fideo o gi defaid, Mick, ar werth. Mae hi’n ymweld â’r ffermwr Huw a’i wraig Megan yn y bryniau anghysbell.

Unseen - Ian Smith/Auntie Margaret Films

Wrth iddi dynnu lluniau pobl sy’n cael trafferthion gyda’u hiechyd meddwl, mae’r ffotograffydd adnabyddus, Suzie Larke, yn cael blwyddyn emosiynol anodd yn gwylio marwolaeth araf ei thad. A fydd yn dal yn fyw ar gyfer ei harddangosfa a beth fydd yn dod â hi drwyddi?

The Coat Of Radical Kindness - Naz Syed

Mae The Coat of Radical Kindness yn adlewyrchu’r creadigedd a gafwyd a’r cysylltiadau a wnaed dros y cyfnod clo. Mae’r gôt wedi ei chreu o fwy na 300 pom pom ac mae’n ymgorfforiad lliwgar a chyffyrddol o freuddwydion creadigol. Mae’n cynnwys lleisiau’r gymuned a rannodd eu straeon a'u celf ac mae pob pom pom yn symboleiddio atgof a gweithred fach o garedigrwydd. Mae gwneud gwaith crefft yn fath o ddihangfa ac yn fy nghymryd yn ôl i atgofion fy mhlentyndod. Cefais fy ysbrydoli gan yr enfysau yn fy stryd i symboleiddio gobaith. Mae egni’r gôt yn pasio cwtsh gynnes ymlaen, yn llawn swyn a llawenydd!

Rhan o Our Creative Space, sy’n cofnodi’r creadigedd yn Rhanbarth Caerdydd, Caerdydd Greadigol, Cyngor Celfyddydau Cymru. Ffilmiwyd gan Creative Fez

Ancestors Mewn Golau - Onismo Muhlanga

Cafodd ein cartref ni ein hunain ei osod ar sylfeini ein hynafiaid. Mae’r profiadau a wynebwn, yr enydau a rannwn, yr haul yn y bywyd yr ydym yn byw drwyddo, oll yn gysylltiedig â’r golau ar y llwybr sydd wedi ei baratoi i ni. Mae Ancestors mewn Golau yn welediad prydferth sy’n cyfuno cynnwys fideo wedi ei recordio gyda darnau ffilm o’r archifau a lluniau symudol a ganfuwyd, ac mae gwaith Muhlanga yn cyfuno cerddoriaeth a symudiad i gymryd y gwylwyr ar daith o ysbryd, treftadaeth ac atgofion ymgorfforedig.

rise Only beGUN - Onismo Muhlanga

Mae’r darn hwn yn llawn o welededd o gryfder, arweinyddiaeth, uchelgais, gwydnwch a champweithiau pur Andrew drwy holl gerrig filltir taith ei fywyd hyd yn hyn. Mae’n arwain rôl fel Gweinidog Cyfiawnder Ieuenctid sy’n deillio o’i gyfranogaeth, ynghyd â’i ddehongliad, o Ymgyrchu 2020 o amgylch sbardun 2020 fel pwynt ffocws ar gyfer pob pennod o’i fywyd mewn arddangosfeydd sydd wedi chwarae rhan yn y broses o adeiladu ei nodweddion.


Resurrection - Onismo Muhlanga, Pierre Gashagaza & Jordan Wilson-Alexander

Mae 'Resurrection' yn brosiect sy’n agos at galon Pierre Gashagaza ac sy’n cynnwys y trafferthion y mae wedi eu cael gyda hunaniaeth a phwrpas drwy fideo’r gair llafar. Roedd y ffilm yn ymateb uniongyrchol i’r ffaith bod cynnyrch creadigol Pierre wedi ei rwystro pan gafodd swydd yn ystod yr haf dim ond er mwyn ennill arian. Wrth i ni brofi’r daith hon o ganfod a chwestiynu hunaniaeth, gallwn weld go iawn sut mae’n rhaid i ni symud ein hysbryd tuag at y pethau a garwn er mwyn i ni ffynnu.

Lost- ‘unable to find one’s way or not knowing one’s whereabouts’.
There was once a moment in time when this feeling was no stranger to me, a strong sense of familiarity you could call it.
Yet, despite an array of anguish plaguing my body,
what truly left me in a stagnant position was being unable to identify the source of my problems.
All signs of life were being stripped away from my identity and Before I knew it I was no longer myself.
Instead, a lifeless vessel who meandered through life with no destination in sight.
Grey. That’s all I could envision. All I could feel.
All that was presented to me during this confusing plight.
Or so I thought.
The resolve was present the entire time.
In fact all I needed was time, time to reflect on where my energy was being displaced and why.
For too long external forces dictated my course of action whilst I watched idly by with no resistance.
This way of living had run its course, for now was the time to alleviate my spirit from the shackles that burdened by my body and transition onto the path that resonated with
my mind,
being
and soul.
It was my time to be RESURRECTED!!!!!!!

Cysylltiadau Coll – Cwilt Coffee and Laughs

Mae Coffee and Laughs yn elusen a grŵp cyfeillion hyfryd i ferched o bob oed, ffydd a diwylliant yn Community House ym Maendy, Casnewydd. Yn rhan o’r prosiect cymunedol Cysylltiadau Coll, gweithiodd yr artist Naz Syed gyda’r grŵp i ddatblygu cwilt cymunedol a chofnodi straeon yn ystod y cyfnod clo. Cafodd y farddoniaeth sydd dan sylw ei chreu a’i hadrodd gan Sue Lewis ac yna cafodd y cwilt, gyda darnau a wnaed gan y grŵp, ei wnïo at ei gilydd gan Marilyn Priday o Coffee and Laughs.
Ffilmiwyd gan Onismo Muhlanga a’i gofnodi gan James Mitchell.
Ffilmiwyd hwn yn rhan o Eyst, We Are Wales. Ariannwyd Cysylltiadau Coll gan ACW Stabilisation Fund.

Proffil Artistiaid

Onismo Muhlanga

Stephen George Jones

John Crerar

Ganed John Crerar yn Llundain yn 1957. Mae’n ffotograffydd dogfennol, yn wneuthurwr ffilm ac yn ddarlithydd sy’n byw yng Nghasnewydd yn Ne Cymru. Mae ei waith wedi cael ei arddangos yn eang dros y ddwy ddegawd ddiwethaf yn ogystal â chael ei gynnwys yng nghasgliadau nifer o sefydliadau, gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae ei waith ffotograffig yn adlewyrchu ei ddiddordeb byw mewn testunau sy’n adlewyrchu datblygiad tirluniau ôl-ddiwydiannol De Cymru.

Ers ymddeol o ddysgu ym mis Gorffennaf 2014 mae John wedi gweithio ar gyfres o wahanol brosiectau gan gynnwys cyhoeddi cyfrol o ffotograffau o hen adeiladau sinema De Cymru. Mae hefyd wedi datblygu arddangosfa o’r enw ‘The Rookery’, a gafodd ei dangos am y tro cyntaf yn Oriel Y Dyfodol, yn Y Pierhead ym Mae Caerdydd ym mis Mai 2019.

Ym mis Gorffennaf 2019 derbyniodd grant ymchwil a datblygu gan Gyngor Celfyddydau Cymru i ddatblygu ei brosiect diweddaraf, ‘Lions & Unicorns’.

João Saramago

Artist Portiwgalaidd, o Lisbon yn wreiddiol, sydd wedi ei seilio yng Nghaerdydd, Cymru erbyn hyn. Mae ei arferion creadigol yn archwilio syniadau o freuder a dyfalbarhad drwy ffilm, ffotograffiaeth, perfformiad, tynnu llun a gosodwaith sy’n benodol i safle.

Mae’n creu gwaith chwareus, ystyrlon a chynaliadwy sy’n defnyddio tirwedd Cymru, ei gartref newydd, i fyfyrio ar ymddygiad llygrol dyn a’i effaith hirdymor ar yr amgylchedd.

Marega Palser

Naz Syed

Mae pobl wedi rhoi’r enw Mary Poppins Bohemiaidd Casnewydd i Naz Syed, gyda’i gweithdai teithiol a’i chesys dillad yn lledaenu creadigedd a charedigrwydd. Hi yw Cyfarwyddwr Ziba Creative ac mae’n ymgynghorydd creadigol ac artist gweledol sydd mewn cysylltiad â chymdeithas. Gweithio gyda phobl eraill yw’r grym sy’n gyrru ei gwaith, ac mae hi’n cysylltu pobl a’u straeon, gan edrych ar wella llesiant a magu hyder drwy greadigedd. Mae hi’n defnyddio mathau gwahanol o gelf yn cynnwys; tecstilau, cerflunio, ffasiwn, cyfryngau cymysg a collage. Mae Naz yn frwdfrydig iawn ynglŷn â chefnogi’r celfyddydau yng nghalon y gymuned, ac mae ganddi fwy nag 20 mlynedd o brofiad. Mae hi wedi creu capsiwl amser cymunedol gweledol gyda ‘Lost Connections’ a gweithdai a phecynnau Art Clwb i gefnogi creadigedd yn y gymuned.

Claire Sturgess

Ian Smith

Mae Ian Smith yn wneuthurwr ffilmiau queer wedi ei seilio yng Nghaerdydd, Cymru. Astudiodd ffilm yn Ysgol Ffilm Casnewydd, lle cafodd ei ddylanwadu gan y gwneuthurwr ffilmiau dogfen adnabyddus John Grierson, Noddwr yr ysgol.

Aeth Ian yn ei flaen i ddod yn gynhyrchydd a chyfarwyddwr yn BBC Wales lle bu’n cynhyrchu amrywiaeth o fformatau, ffilmiau a rhaglenni dogfen yn cynnwys Wales and Hollywood, How The Co-op Started, Homelessness: On the Edge. Gweithiodd Ian hefyd ar fformatau drama yn cynnwys Doctor Who, War of the Worlds, Mistresses, ymysg nifer o rai eraill. Mae’n dal i weithio i’r BBC fel gweithiwr llawrydd ar faterion cyfoes, ffeithiol a chynnyrch cerddorol. Mae hefyd yn cynhyrchu ffilmiau drwy ei gwmni Auntie Margaret. Cafodd ei ffilmiau diweddar GO HOME POLISH, a THREE LETTERS, eu dewis ar gyfer Goreuon Prydain yng NGWOBR IRIS 2020 a 2021 ac, ar hyn o bryd, mae’r rhain yn cael eu dangos ar Sianel 4 yn y DU.