Digwyddiad / 18 Hyd 2023

Gweminar Photovoice - Dr Deborah Chinn

Gweithdy ar-lein ymarferol am photovoice: ffotograffiaeth gyfranogol gyda grwpiau ymylol

Bydd Dr Deborah Chinn, ymchwiliwr arweiniol ar gyfer yr astudiaeth Feeling at Home, yn cyflwyno ‘photovoice’, sef dull datblygu cymuned ac ymchwil cyfranogol lle bydd pobl yn dweud eu straeon, yn rhannu eu profiadau, ac yn gweithio tuag at wella eu bywydau drwy ffotograffiaeth. Mae lluniau o’r astudiaeth Feeling at Home yn cael eu harddangos ar hyn o bryd yn Ffotogallery o’r 11eg hyd y 21ain o Hydref 2023.

Bydd y sesiwn ar-lein hwn o ddiddordeb i artistiaid a ffotograffwyr sydd eisiau defnyddio dulliau cyfranogol i gynnwys aelodau o’r gymuned yn eu harferion, a grwpiau cymunedol ac unigolion sy’n chwilfrydig ynglŷn â sut y gallent ddefnyddio ffotograffiaeth gyfranogol i ddod â newid cymdeithasol.

Yn y sesiwn ryngweithiol hon, bydd Deborah yn rhoi cyfle i’r bobl sy’n bresennol ymarfer photovoice eu hunain mewn gweithgaredd blasu photovoice. Yna bydd yn esbonio sut yr ydym yn defnyddio ffotograffiaeth gyfranogol yn ein gwaith ymchwil i archwilio beth sy’n helpu pobl gydag anableddau dysgu, sy’n byw mewn cartrefi grŵp, i deimlo’n ‘gartrefol’. Bydd yn trafod buddion defnyddio’r dull hwn i rannu ystyr, yr heriau a wynebir gennym mewn dehongli, a’r effaith a gafodd y broses photovoice – ar gyfranogwyr, ymwelwyr â’r arddangosfa, a’r tîm ymchwil.