Digwyddiad / 28 Meh 2018

Degawd o ddelweddau - 1980au/90au

Yn erbyn cefnlen blynyddoedd Thatcher, rhwng 1983 a 1992 sefydlodd a rhedodd David Drake ganolfan gyfryngau arloesol yn Llundain yn canolbwyntio ar ffotograffiaeth, fideo a dylunio graffig, fel rhan o fudiad cyfryngau annibynnol a oedd yn cynnwys Four Corners, Blackfriars Photographic Project, Autograph, Watershed, f Stop, Fantasy Factory a West London Media Project. Gan weithio gydag artistiaid a gwneuthurwyr ffilmiau fel Joanne O’Brien, Susan Trangmar, Ken Loach a Jamoula McKean, bu’n meithrin doniau newydd a chynnig llais a wrthwynebai’r agenda gymdeithasol-wleidyddol a oedd y tra-arglwyddiaethu ym Mhrydain. Wrth i’r 1990au wawrio, daeth technoleg ddigidol a masnacholiaeth rhemp â newidiadau dybryd i weithredu mewn ffotograffiaeth a’r cyfryngau yn y DU a dechreuodd y mudiad 'ffotograffiaeth annibynnol' chwalu a newid cyfeiriad.

Gair am David Drake

Mae gan David Drake 35 mlynedd o brofiad ar lefel uwch yn sector y celfyddydau a’r cyfryngau gweledol, gan dreulio’r 9 olaf yn Gyfarwyddwr Ffotogallery. Mae ei yrfa amlochrog yn cynnwys profiad helaeth mewn curadu, cyhoeddi, rheoli a chynhyrchu gyda sefydliadau mor amrywiol â Watershed, Cyngor Celfyddydau Lloegr, Picture This Moving Image, FIVE magazine, Amgueddfeydd ac Oriel Gelf Birmingham a HP Labs. Yn y 1980au sefydlodd a bu’n rhedeg canolfan gyfryngau arloesol yn Llundain yn cynnig rhaglenni hyfforddi ffotograffiaeth, teledu a dylunio o safon ddiwydiannol ar y cyd â gwahanol ddarlledwyr, sefydliadau diwylliannol a cholegau addysg uwch. Bu’n Gyfarwyddwr Celfyddydau Gweledol a Chyfryngau South West Arts o 1992 i 2002, gan greu rhaglenni hyfforddi artistiaid newydd ac arwain ymgais y bwrdd celfyddydau rhanbarthol i fynd i’r afael â thechnolegau newydd ac agendâu ehangach y diwydiannau creadigol. Ym 1998, derbyniodd Gymrodoriaeth Deithio ac Ymchwil Winston Churchill a threulio chwe mis yn ymchwilio i ddefnydd artistiaid o dechnoleg yng Ngogledd America ac Ewrop. Bu’n gynhyrchydd Electric Pavilion o 2002 i 2005, project tair-blynedd ar-lein yn arddangos y creadigrwydd a geid yn ninas Bryste, a sefydlodd raglen adodd-straeon ddigidol Bristol Stories.