Digwyddiad / 22 Meh 2023

Sgrinio ffilm: Samos On Fire - Songs In Asylum

Fareid Atta

I ddathlu Wythnos y Ffoaduriaid 2023 (19 – 25 Mehefin) mae’n bleser gan Ffotogallery gynnal sgriniad arbennig o’r ffilm fer Samos On Fire - Songs In Asylum ar nos Iau 22ain Mehefin am 6pm.

Bydd y cyfarwyddwr Freid Atta yn ymuno â ni wedyn i gyflwyno’r ffilm ac i gynnal sesiwn holi ac ateb.

Mynediad am Ddim – Rhaid archebu lle drwy Eventbrite.

Crynodeb o’r ffilm:

Un rhan o’r gwaith o ddatrys yr argyfwng ffoaduriaid yng Ngwlad Groeg yw dangos i Ewrop beth sydd gan yr unigolion hynod hyn i’w gynnig. Rwy’n ystyried y ffilm hon yn gais i ddangos elfennau cadarnhaol bywyd fel ffoadur, ac mae’n rhoi cipolwg bach i ni ar yr unigolion eu hunain.

I ddangos sut mae gan gerddoriaeth a chreadigedd y grym i weddnewid bywydau. I ddangos nad yw ffoaduriaid byth yn colli gobaith er gwaethaf ansicrwydd y broses geisio lloches, eu hamodau byw a’u breuddwydion am fywyd y tu allan i’r gwersyll…

Mewn gwersyll i ffoaduriaid yn Samos, mae grŵp o gerddorion o Affrica a’r Dwyrain Canol yn cyfarfod i greu cerddoriaeth. Does dim i roi taw ar eu sesiynau, ddim hyd yn oed pan mae’n rhaid iddynt ymdopi â thanau, daeargrynfeydd ac yn waeth na dim…y broses geisio lloches hynod ddryslyd.

Mae’r ffilm ddogfen yn arddull y cinema verité ac yn y dull barddonol. Nod y ffilm yw creu cyfosodiad rhwng amodau di-drefn ac enbyd gwersyll Vathy, a llawenydd canu, offerynnau cerddorol a dawns.

Yn y pen draw, nod y ffilm ddogfen yw portreadu bywydau’r cerddorion a’r artistiaid hyn gyda’r holl dristwch a siom a ddaw law yn llaw â’u sefyllfa, ond hefyd y gwreichion o lawenydd yn y gwersyll.

Meddai Cyfarwyddwr Samos on Fire, Fareid Atta:

“Rwy’n ystyried y ffilm ddogfen yn gais i ddangos yr ochr gadarnhaol i brofiad y ffoaduriaid, ond yn bwysicach na hynny – i ddangos yr agwedd obeithiol a welwn ymysg yr unigolion bob amser – waeth pa mor ddiflas neu undonnog yw’r adegau hynny.”

Proffil Artist

Portread o Fareid Atta

Fareid Atta

Treuliais wyth mis yn Samos, Gwlad Groeg, yn 2020 lle bum yn gweithio i NGO gerllaw’r gwersyll ffoaduriaid fel cyfieithydd Arabeg a newyddiadurwr llawrydd. Pan welais y gwrthgyferbyniad rhwng fy mhrofiad i o’r argyfwng ffoaduriaid yng Ngwlad Groeg a’r ffordd yr oedd yn cael ei bortreadu yn y cyfryngau gorllewinol, ysbrydolodd hynny ddiddordeb oes ym materion dyngarol y rhanbarth a phroblemau mudo. Roeddwn hefyd yn llawn edmygedd o’r ffoaduriaid a gwrddais yno a’u dawn a’u gwytnwch, felly penderfynais wneud ffilm ddogfen fer amdanyn nhw.

Cefais fy ngeni a’m magu ym Mhrydain, astudiais Saesneg Llên fel gradd a graddiais o Brifysgol Caeredin yn 2019 gyda gradd Meistr mewn Astudiaethau Dwyrain Canol gydag Arabeg.

Wedi i mi wirfoddoli ar gyfer y Tîm Med’Equali sy’n NGO yn 2020, dychwelais i’r Deyrnas Unedig lle gweithiais i felin drafod, ac rwy’n gweithio ar hyn o bryd fel newyddiadurwr i Cambridge News.