Digwyddiad / 1 Ion – 31 Ion 2024

Prosiect Traethawd Ffotograffau Lles Ar-lein

Mae mis Ionawr yn gallu bod yn fis tywyll a hir ar ôl dathliadau’r ŵyl, felly hoffem eich gwahodd i gyd i ymuno â ni ar brosiect sydd wedi ei lunio i’n helpu i wella ein lles a chodi ein hwyliau! Ein nod yw creu gofod lle gall ein creadigedd a’n lles gyfarfod.

Ar ddechrau 2023 rhedwyd prosiect gennym gyda phromptiau dyddiol ond eleni rydym wedi penderfynu gwneud pethau ychydig yn wahanol.

Yn lle prompt bob dydd, byddwn yn cyhoeddi prompt ar ddechrau pob un o’r 5 wythnos ym mis Ionawr (4 wythnos lawn a thri diwrnod yn wythnos 5). Bydd y themâu yn dilyn 5 Thema Llesiant a byddwn yn eich gwahodd i greu traethawd ffotograffau sy’n archwilio’r thema ar gyfer pob wythnos newydd gyda chynifer, neu gyn lleied, o ffotograffau ag yr hoffech eu tynnu.

Ar ddydd Llun bob wythnos byddwn yn cyhoeddi’r Thema Llesiant ar gyfer y wythnos sy’n dod ar draws ein platfformau ar-lein. Bydd cael wythnos i feddwl am bob thema yn rhoi amser i chi i ystyried sut y gallech ddangos y thema honno drwy ffotograffiaeth. Gallai eich ffotograffau fod yn bersonol neu gallant edrych tuag allan, neu efallai yr hoffech gynnwys testun drwy farddoniaeth neu ryddiaith, gallech gynnwys rhai cyfryngau cymysg os dewiswch, a gallech ddehongli’r themâu ym mha ffordd bynnag sy’n teimlo’n gywir i chi. Byddwn yn postio prompt yr wythnos gyntaf ar Ddydd Llun 1 Ionawr.

Rydym wedi creu grŵp Facebook lle gallwch rannu eich ffotograffau drwy gydol y mis gyda chymuned o ffotograffwyr eraill sydd oll yn cymryd rhan hefyd.

Os nad ydych ar Facebook, gallwch lwytho eich ffotograffau i’r ffolder a rannwn.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld sut mae pawb yn dehongli pob thema a’r gwaith gwych fydd yn cael ei greu! Rydym yn gobeithio y bydd cael ffocws sy’n codi calonnau pobl drwy gydol mis Ionawr yn gallu ein helpu ni oll i gychwyn y Flwyddyn Newydd gyda llygad bositif ar 2024!

Gwnewch yn siŵr mai chi sydd â’r hawlfraint gyfan ar gyfer unrhyw waith a gyflwynwch. Drwy gyflwyno eich gwaith i ni rydych yn rhoi caniatâd i’r gwaith gael ei rannu ar draws ein platfformau ar-lein. Cynhwyswch eich enw yn nheitl pob ffeil a gyflwynwch. Cafodd y 5 llwybr at lesiant eu datblygu gan New Economics Foundation, ac maen nhw wedi eu seilio mewn tystiolaeth ac ymchwil.


WYTHNOS UN: CYSYLLTU (1 - 7 Ionawr)

Mae cysylltiad dynol mor bwysig i’n lles ni fel pobl. Boed yn gysylltiad wyneb yn wyneb, ar-lein, dros y ffôn, gydag un person neu gyda llawer o bobl, mae cysylltu ag eraill yn gallu ein helpu i deimlo’n agos at bobl, ac wedi ein gwerthfawrogi am bwy ydym ni.

Sut ydych chi’n cysylltu â phobl? Sut ydych chi’n gweld pobl eraill yn cysylltu? Sut allwch chi ddangos mor bwysig yw’r cysylltiad hwnnw mewn ffotograffau?

Defnyddiwch yr wythnos hon i archwilio’r syniad o gysylltiad a sut mae’n helpu i wella ein llesiant.

WYTHNOS DAU: CADW'N HEINI (8 - 14 Ionawr)

Rydym oll wedi clywed mor bwysig yw cadw’n heini ar gyfer ein lles a sut mae’n gallu eich helpu i feithrin agwedd meddyliol cadarnhaol. Dydy hynny ddim yn golygu bod angen i bob un ohonom gofrestru i fynd i’r gampfa 5 diwrnod yr wythnos. Mae gwneud newidiadau bach yn gallu bod yn hynod o fuddiol hefyd. Mae mynd am dro yn yr awyr iach, dewis dringo’r grisiau i fynd i lawr cyntaf y maes parcio yn lle aros am y lifft, gwneud ychydig o ddawnsio, hyd yn oed ymestyn ein cyrff ychydig bach, yn gallu helpu’n fawr.

Defnyddiwch eich camera yr wythnos hon i dynnu lluniau sy’n gysylltiedig â’r thema hon. Efallai eich bod am ddangos sut rydych yn cadw’n heini neu eich bod am edrych ar bobl eraill o’ch cwmpas. Efallai y gallech ddogfennu eich taith gerdded drwy’r parc neu bobl yn rhedeg neu’n mynd â’u cŵn am dro sy’n defnyddio’r gofod hwnnw hefyd. Efallai eich bod yn mynd i ddosbarth yoga lle mae cyrff pobl yn creu siapiau rhyfeddol. Beth bynnag y dewiswch chi edrych arno, ceisiwch fynegi’r syniad o gadw’n heini drwy gydol yr wythnos hon.

WYTHNOS TRI: TALU SYLW (15 - 21 Ionawr)

Rydym yn cerdded drwy ein bywydau gyda’n pennau i lawr, ar goll yn ein meddyliau ein hunain.

Mae eich atgoffa eich hun i dalu sylw i bethau yn gallu eich helpu’n fawr i fod yn ymwybodol o’r ffordd rydych chi’n teimlo. Mae rhai astudiaethau wedi dangos bod blasu a mwynhau’r ‘funud bresennol’ yn gallu eich helpu chi hefyd i deimlo’n fwy positif am fywyd.

Cymerwch amser i oedi, anadlu a meddwl am yr hyn sy’n digwydd o’ch cwmpas.

Yr wythnos hon, defnyddiwch eich camera i dynnu lluniau sy’n dangos y syniad o dalu sylw. Stopiwch am funud ac edrychwch o’ch cwmpas. Beth ydych chi’n sylwi arno?

WYTHNOS PEDWAR: DYSGU (22 - 28 Ionawr)

Waeth pa mor hen awn ni, rydym bob amser yn dysgu pethau newydd, p’un a ydyn ni’n sylweddoli hynny ai peidio! Mae dysgu rhywbeth newydd yn gallu rhoi hwb go iawn i ni i wella ein hunanbarch a’n llesiant.

Beth ydych chi wedi’i ddysgu yn barod heddiw? A oes rhywbeth yr ydych wedi bod eisiau dysgu amdano erioed? Does dim rhaid iddo fod yn beth mawr nac yn dasg anodd: efallai y byddwch yn dewis dysgu tric hud, sut i drwsio eich peiriant golchi dillad, efallai wrando ar bodlediad hanesyddol, dysgu gair newydd, dysgu rhywbeth am yr ardal lle’r ydych yn byw – mae dysgu unrhyw beth newydd, waeth pa mor fach, yn gallu eich helpu i deimlo synnwyr o gyflawniad ar unrhyw raddfa.

Sut allwch chi ddangos y broses honno o ddysgu drwy ffotograffau a faint y gall y broses honno fod yn fuddiol i’r ffordd yr ydych yn teimlo? Treuliwch yr wythnos hon yn ceisio cyfleu’r syniad hwnnw drwy eich ffotograffau.


WYTHNOS PIM: RHOI (29 - 31 Ionawr)

Mae’n well rhoi na derbyn medden nhw, ac mae’n sicr bod llawer o wirionedd yn y dywediad hwnnw.

Mae rhoddi yn eich gwneud chi’n hapus. Mae gweld y wên, y diolch a’r gobaith ar wynebau’r bobl yr ydych yn garedig iddynt yn golygu bod y weithred o roi yn werth ei gwneud. Mae rhoddi yn gwneud i chi deimlo’n werthfawr ac yn gwneud i chi deimlo’n dda!

Yn nyddiau olaf ein prosiect Ffotograffiaeth Lles mis Ionawr a allwch chi fynegi’r teimlad hwnnw o hapusrwydd sy’n cael ei greu pan fydd un person yn rhoi i berson arall? Y teimlad hwnnw o foddhad a phleser a ddaw o’r weithred o roi?