Digwyddiad / 24 Awst 2023

Sesiwn Bywluniad

Jack Moyse

Ar ddydd Iau 24 Awst rydym yn cynnal sesiwn bywluniad gyda Jack Moyse fel model. Mae arddangosfa Jack You and I yn gyfres ddogfennol fewnsyllgar sy’n dilyn artist ifanc sy’n ceisio deall yr effeithiau ffisegol a meddyliol o fyw gyda dystroffi cyhyrol. Mae’r arddangosfa hon yn cael ei dangos ar hyn o bryd yn yr oriel tan 9 Medi 2023 yn rhan o’r fenter Interventions: Gallery Reset.

Mae’r sesiwn yn addas i bob oedran a gallu, p’un a ydych eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd neu’n chwilio am esgus i ymarfer eich sgiliau tynnu llun. Darperir y defnyddiau ond mae croeso i chi ddod â’ch rhai chi’ch hun hefyd – bydd yr islau ar gael i’r rhai cyntaf sy’n cyrraedd.

Mae’r sesiwn hon yn rhad ac am ddim ond mae’r lleoedd sydd ar gael yn gyfyngedig felly mae gofyn archebu lle drwy Eventbrite.

Proffil Artist

Portread o Jack Moyse

Jack Moyse

Mae Jack Moyse yn ffotograffydd ac artist sy’n gweithio o Abertawe yn Ne Cymru. Mae ei waith yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol fel demoneiddio mudwyr, ableddiaeth ac iechyd meddwl. Mae Jack wedi derbyn gwahoddiadau i siarad mewn nifer o golegau, prifysgolion, gwyliau ffotograffiaeth a symposia, yn cynnwys Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant Abertawe, Ysgol Gelf Caerfyrddin a’r Trauma Porn Symposium ym Mryste (gyda chefnogaeth Grŵp Ymchwil Ffotograffiaeth Bryste). Ym mis Ebrill eleni cafodd ei wahodd i arddangos mewn cynhadledd Iachâd Trwy Ffotograffiaeth, a chyfrannu ynddi, yn Belfast Exposed.