Sianel / 28 Ebr 2023

Newyddlen mis Ebrill


ARDDANGOSFA NEWYDD / Y Stafell Fyw: yn rhedeg hyd 11eg Mai

Mae Faadi/Y Stafell Fyw/The Living Room yn brosiect ffotograffiaeth a ffasiwn rhwng y cenedlaethau sy’n rhannu lleoliadau teuluol personol yng nghartrefi pobl Somali-Gymreig. Mae pwyslais y prosiect ar ddathlu ac mae’n cynnwys delweddau o fodelau lleol ifanc mewn gwisgoedd priodferch, aelodau o’r gymuned yn modelu dillad diwylliannol fel Hidyaah Dhaqan a Diraq, brawdoliaeth a gwrywdod meddal a’r ddawns draddodiadol Ciyaar Somali.

Mae’r prosiect hwn yn gydweithrediad rhwng Asma Elmi, sylfaenydd a chyfarwyddwr creadigol Al Naeem, a Young Queens. Mae Al Naeem yn gylchgrawn sy’n canolbwyntio ar ffasiwn, ffotograffiaeth a chelf pobl Ddu a Mwslimaidd. Mae Young Queens yn grŵp celfyddydol i fenywod ifanc Somali-Gymreig o Gaerdydd, a sefydlwyd gan Ymddiriedolaeth Menywod Hayaat, gyda chefnogaeth ariannol y Loteri Treftadaeth.

Mwy o wybodaeth

Image: Hold Still-Keep Going, 1989. From the Robert Frank Collection, National Gallery of Art, Washington D.C.

SYMPOSIWM ROBERT FRANK

Gobeithio y gallwch ymuno â ni Ddydd Gwener 5 Mai, 2.30-5pm, ar gyfer 'Robert Frank Redux: Another look at the Films & Photography of Robert Frank', y mae’n bleser mawr gennym ei gyflwyno mewn partneriaeth â’r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Ddogfennol ym Mhrifysgol De Cymru.

Am fod Robert Frank wedi marw yn 2019, mae’n amser da i fynd ati i ailwerthuso ei gorff o waith eithriadol o amrywiol. Bydd y sesiwn hwn yn edrych ar ei waith eiconig cynnar The Americans (1958), natur eiconigrwydd o fewn y gwaith hwn, a defnydd diweddarach Frank o luniau polaroid, ffilmiau a fideo fel ffordd o arysgrifio ystyr i mewn i’r ffrâm drwy waith ysgrifennu, darniad a ffyrdd eraill o gyfleu.

Gallwch ganfod rhagor ac archebu eich tocynnau am ddim ar y ddolen ar ein gwefan.

Mwy o wybodaeth

GALWAD AGORED: Menter Ffotograffiaeth Higgins

Mae menter ‘The Higgins Photography Initiative‘ yn fenter newydd lansiwyd gan Cardiff MADE mewn partneriaeth â Ffotogallery i redeg ochr yn ochr â chynllun ffocws sy’n cefnogi artistiaid newydd sy’n gadael addysg uwch gyda rhaglen datblygu gyrfa. Mae ‘The Higgins Initiative” yn chwilio am ymgeiswyr nid yw ar hyn o bryd mewn addysg uwch sy’n gallu profi ymgysylltiad sylweddol â ffotograffiaeth a chyfryngau lens, gydag uchelgeisiau i barhau a datblygu eu hymarferiad ffotograffiaeth hyd at safon broffesiynol.

Gan dynnu ar gronfa o arbenigedd o ffotograffwyr proffesiynol ac addysgwyr ledled y ddinas byddwn yn bugeilio hyd at bedwar unigolyn detholedig tuag at gyflwyno corff o waith yn Ffotogallery ym mis Tachwedd 2023, ar y cyd a’r garfan ffocws 2023-24, sef carfan o ffotograffwyr graddedig newydd.

Mwy o wybodaeth

© Paul Reas

SGYRSIAU SADWRN – Menter Ffotograffiaeth Higgins

Mae’n bleser o’r mwyaf gennym gyd-gynnal cyfres o ‘Sgyrsiau Sadwrn’ yn rhan o alwad agored Menter Ffotograffiaeth Higgins mewn cydweithrediad â Cardiff MADE.

Ar ôl cyflwyno crynodeb o’r themâu a’r prosiectau arwyddocaol sydd yn eu gwaith, bydd cyfle i bobl sy’n bwriadu ymgeisio i Fenter Higgins a’r garfan sy’n rhan o’r cynllun Ffocws ar hyn o bryd, archebu slot gyda’r siaradwr gwadd i ddangos a thrafod agweddau o’u gwaith eu hunain.

Fis yma gallwch edrych ymlaen at sgyrsiau gan bobl fel Abbie Trayler-Smith, Paul Reas, Clementine Schneidermann a Faye Chamberlain. Archwiliwch y rhaglen lawn ac archebwch eich tocynnau isod.

Mwy o wybodaeth

GALWAD AGORED / Ymyriadau: Ailosod Orielau

Peidiwch ag anghofio rhoi cynnig ar alwad agored Interventions: Gallery Reset mewn partneriaeth â Disability Arts Cymru! Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 19 Mai.

Ein gobaith ni yw y bydd yr ymyriadau a'r meddiannau hyn yn rhoi cyfleoedd newydd i artistiaid sydd wedi eu seilio yng Nghymru sydd ag arferion sy'n herio ac yn aflonyddu ffyrdd traddodiadol o weithio, yn gofyn cwestiynau heriol a chythruddol, ac yn canolbwyntio ar themâu fel hunaniaeth, mudo, rhywedd, anghydraddoldeb cymdeithasol a'r amgylchedd.

Mwy o wybodaeth

DYDD MAWRTH TE A THEISEN

Mae Dydd Mawrth Te a Theisen yn dychwelyd ar Ddydd Mawrth Mai 2il 2023! Byddwn yn agored rhwng 11am a 1pm gyda staff wrth law i’ch cyfarch ac i ddweud rhagor wrthych am yr arddangosfeydd a ddangoswn.

Mwy o wybodaeth

ARTISTIAID YN MEDDIANNU INSTAGRAM

Fis yma rydym yn rhannu ein platfform gyda ffotograffwyr ac artistiaid gwych. O ddydd Llun byddwn yn croesawu’r ddawnus Tracey Laverre Waters i’n cyfrif.

Astudiodd Tracey ffotograffiaeth i ddechrau yng Nghanolfan Ffotograffiaeth Awstralia, un o’r mannau celfyddyd gyfoes mwyaf hirsefydlog yn Awstralia. Symudodd yn ôl i’r Deyrnas Unedig yn 2012 ac astudiodd Ffotograffiaeth Ddogfennol yn Ffotogallery yng Nghymru lle cafodd ei haddysgu gan y ffotograffydd, awdur a darlithydd Michal Iwanoski. Ar hyn o bryd mae hi’n astudio am Radd Meistr mewn Ffotograffiaeth ym Mhrifysgol Falmouth yng Nghernyw, Lloegr, y DU ac mae hi’n cynhyrchu gwaith arbrofol diddorol iawn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ein dilyn ni fel nad ydych yn colli cyfle.

Mwy o wybodaeth

© Fabio De Paola

ASSIGNMENTS 23

Byddwn wrth ein boddau yn Ffotogallery yr Haf hwn yn cynnal Assignments 23, sy’n teithio i Gymru am y tro cyntaf. Cymdeithas Ffotograffwyr y Wasg Brydeinig (BPPA) sy’n trefnu’r arddangosfa dirnod hon, a bydd yn cynnwys detholiad o ffotograffiaeth orau’r wasg Brydeinig fydd yn cael ei ddewis o alwad agored. Bydd hyn yn dilyn ei gyfnod cychwynnol o ddeg diwrnod yn Bargehouse Llundain ar y Southbank ym mis Mai.

Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at gynnal yr arddangosfa Assignments 23 yma yn Ffotogallery, nid yn unig am mai dyma’r tro cyntaf iddi gael ei harddangos yng Nghymru, ond hefyd am ei bod yn arddangos ffotograffau a fydd yn chwarae rôl hanfodol i’n helpu i gofio a myfyrio ar rai o’r digwyddiadau allweddol sydd wedi digwydd ym Mhrydain yn y flwyddyn ddiwethaf yma.

Mwy o wybodaeth

You might also like:

© Myfanwy MacLeod

Y Byddar Ynghyd

Bydd cynulliad newydd dan arweiniad y Byddar yn digwydd yn Chapter, Caerdydd ar Fai 4 – 6 ac mae’n agored i bawb! Mae’n rhan o Hear We Are, sef prosiect dwy flynedd wedi ei arwain gan y Byddar a grëwyd gan yr artist, ymarferydd ac ymgynghorydd mynediad ByddarJonny Cotsen, mewn cydweithrediad â Chapter sydd wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i fod yn ganolbwynt i leisiau creadigol pobl Fyddar a phobl sydd â Nam ar eu Clyw ledled Cymru. Mae DEAF TOGETHER yn dod â thri diwrnod o ddigwyddiadau, gweithgareddau, arddangosfeydd a pherfformiadau i chi. Mae’r digwyddiad hwn gan bobl Fyddar i bobl Fyddar, ond mae croeso cynnes i bobl sydd yn gallu clywed hefyd. Cefnogir y rhaglen gyda BSL, sgrindeitlo byw a chyfieithu ar y pryd o BSL i Saesneg.

Mwy o wybodaeth

Cyflwyno Gwaith i Gylchgrawn
Source


Ar ddydd Gwener 9 Mehefin 2023, yn rhan o’r gwaith ymchwil ar gyfer rhifynnau’r dyfodol, bydd Source yn trefnu cyfarfodydd Zoom gyda ffotograffwyr i edrych ar waith ffotograffig newydd. Mae pob cyfarfod yn darparu cyfle i gyflwyno gwaith newydd yn uniongyrchol i un o’r golygyddion. Mae hon yn un ffordd i Source ganfod gwaith newydd i’w gyhoeddi yn adran Portffolio’r cylchgrawn. Dim ond gwaith a wneir yn y DU neu Iwerddon y mae Source yn ei gyhoeddi ar ei dudalennau Portffolio – neu waith gan ffotograffwyr o’r DU neu Iwerddon. Mae gwaith rhyngwladol i’w gael yn ein llyfr a’n hadolygiadau o arddangosfeydd.

Mwy o wybodaeth

Ysgrifennu’n Falch – Galwad am gyflwyniadau!

Mae Amgueddfa Cymru wedi bod yn cydweithio â Hanesydd LHDTC+ o Gymru, Norena Shopland, i gynnal prosiect ysgrifennu creadigol sy’n canolbwyntio ar ymateb yn greadigol i ddarnau o hanes LHDTC+ Cymru sy’n gudd neu wedi eu hanghofio’n aml iawn. Mae Amgueddfa Cymru’n gwahodd pobl i gyflwyno darnau o ryddiaith, barddoniaeth neu ddarluniau sydd wedi eu hysbrydoli gan destunau hanesyddol yn y pecyn testun PDF sydd ar gael ar eu gwefan. Bydd cyflwyniadau’n cael eu dewis i gael eu casglu mewn cyhoeddiad eLyfr gyda’r posibilrwydd o’i gyhoeddi ymhellach. Gall y darnau fod yn Gymraeg neu’n Saesneg a chynnwys hyd at 1000 o eiriau. Dyddiad cau: 2il Mehefin 2023.

Mwy o wybodaeth

New Conversations

Gwahoddir partneriaid artistig rhwng y Deyrnas Unedig a’r Aifft i wneud cais am hyd at £7,500 GBP i archwilio sut y gallent gyfnewid syniadau creadigol, gwybodaeth ac arferion, a datblygu gwaith perfformio newydd heb gyfarfod wyneb yn wyneb. Mae’r gronfa’n agored i artistiaid unigol, cydweithfeydd, cwmnïau annibynnol a sefydliadau theatr a dawns sydd wedi eu seilio yn yr Aifft a’r Deyrnas Unedig. Mae croeso hefyd i gydweithfeydd sy’n croesi’r celfyddydau. Darperir New Conversations, sef rhaglen partneriaethau creadigol rhwng y DU a’r Aifft, gan Farnham Maltings and Orient Productions, gyda chefnogaeth gan British Council Egypt, Arts Council England, a Fonds de Soutien aux Arts Arabes (FSAA). Dyddiad cau: 15/05/23

Mwy o wybodaeth