Sianel / 25 Medi 2020

Nifer o Leisau, Un Genedl 2

Arddangosfa yw Nifer o Leisiau, Un Genedl 2 yn dangos gwaith deuddeg o ffotograffwyr dawnus sy’n gweithio yng Nghymru heddiw. Mae’r arddangosfa’n cyfleu cyfoethogrwydd ac amrywiaeth ddaearyddol, ddiwylliannol a chymdeithasol y genedl, mewn cyfnod o ansicrwydd a newid mawr. Rydym yn rhagweld bydd yr arddangosfa’n agor yn Ffotogallery yn gynnar ym mis Tachwedd (ar yr amod bod y canllawiau iechyd cyhoeddus yn caniatáu hynny), a bydd yr union ddyddiadau’n cael eu cyhoeddi cyn hir.

Mae’r pandemig byd-eang wedi dangos y gorau a’r gwaethaf o’r gymdeithas fodern. Mae wedi dod â ni at ein gilydd mewn adfyd ac mewn gweithredoedd caredig i’n cymdogion. Mae hefyd wedi dangos anghydraddoldeb cymdeithasol ac ymrannu economaidd dwfn. Wrth wahanu pobl oddi wrth eu gweithleoedd, eu teuluoedd a’u cyfeillion, datgelwyd yr hollt ddofn rhwng y rheiny sydd wedi gallu aros adref yn agos at eu hanwyliaid, a’r rheiny sydd ar eu pennau eu hunain ac wedi eu gadael yn fwy unig nag erioed. Wrth i un rhan o gymdeithas gymryd lloches yn eu cartrefi cysurus ac addasu i realiti gweithio o adref, mae llawer o bobl eraill yn parhau i fyw mewn mannau cyfyng neu’n ddigartref. Mae gweithwyr allweddol wedi gorfod wynebu mwy o risgiau er mwyn cadw gwasanaethau’n mynd, ac mae llawer o bobl yn wynebu’r posibilrwydd o golli eu bywoliaeth wrth i’r economi barhau i gwympo. Mae wedi amharu ar ein bywydau ar raddfa nad yw’r mwyafrif o bobl wedi ei gweld erioed o’r blaen.

Wrth i ni ddod allan o’r cyfnod clo, mae Ffotogallery yn ail agor ei ddrysau gydag arddangosfa sy’n cyflwyno golwg fwy optimistaidd ar ddyfodol ein cenedl. Rydym wedi gwahodd pobl broffesiynol o fyd ffotograffeg ledled Cymru i enwebu ffotograffwyr, myfyrwyr ac artistiaid y mae eu gwaith yn cynnig cipolwg ar fywyd cyfoes, ac yn cynrychioli ehangder y ddawn sydd i’w chael yng Nghymru sy’n haeddu cael ei gweld yn ehangach. Detholwyd deuddeg artist ledled Cymru, i adlewyrchu’r amrywiaeth eang o bynciau a gwahanol agweddau ar ffotograffeg.

Trwy gyfrwng yr arddangosfa ac yng ngwaith Ffotogallery yn y dyfodol, rydym eisiau sicrhau ein bod ni’n gwerthfawrogi’r rôl y mae pobl o bob rhan o’n cymuned yn ei chwarae i greu Cymru egnïol. Gwyddom y bydd y celfyddydau yng Nghymru’n gryfach, yn fwy cyffrous ac yn fwy perthnasol i fwy o bobl os byddwn yn croesawu amrywiaeth. Rydym yn mynd ati’n frwd i annog cyfranogaeth y cyhoedd ac ymgysylltiad y gynulleidfa gyda’r materion sy’n codi o’r arddangosfa.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod yr artistiaid a ganlyn wedi eu dewis ar gyfer yr ail fersiwn hwn o Nifer o Leisiau, Un Genedl:

Abby Poulson, Antonia Osuji, Cynthia Sitei, Ethan Beswick, Jack Osborne, Jo Haycock, John Manley, Kaz Alexander, Lucy Purrington, Matthew Eynon, Mohamed Hassan a Robert Law.

Cychwynnodd Nifer o Leisiau, Un Genedl ei bywyd fel arddangosfa deithiol a ddatblygwyd drwy gydweithrediad rhwng Ffotogallery a Senedd Cymru, sy’n dathlu 20 mlynedd o ddatganoliad yng Nghymru.