Sianel / 17 Medi 2020

Swydd Trysorydd yn Ffotogallery

Ers ffurfio Ffotogallery yn 1978, mae’r cwmni wedi bod ar flaen y gad o ran y datblygiadau newydd mewn ffotograffiaeth a chyfryngau’r lens yng Nghymru a thu hwnt, gan annog dealltwriaeth ymysg y cyhoedd ac ymgysylltiad dyfnach â ffotograffiaeth a’i werth i gymdeithas.

Mae cwmpas ein gweithgareddau presennol yn eang, ac yn cynnwys;

  • Arddangosfeydd, gweithgareddau a phrosiectau cyhoeddi mewn print ac ar-lein sy’n adlewyrchu esblygiad y cyfrwng ffotograffig a’i rôl yn y byd
  • Comisiynu ac arddangos gwaith artistiaid newydd a sefydledig ac arferion traws-ddisgyblaethol sy’n ymateb i natur esblygol y cyfrwng
  • Sefydlu a rhedeg yr ŵyl ddwyflynyddol Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd (www.diffusionfestival.co.uk)
  • Datblygu adnoddau dysgu, trefnu sgyrsiau a digwyddiadau, cyrsiau a gweithdai i gefnogi arferion a chyfnewidiad a gwerthfawrogiad gwybodaeth
  • Darparu stiwdio greadigol a man gweithio digidol i ymarferwyr creadigol, grwpiau sy’n cydweithio ac artistiaid rhyngwladol sy’n ymweld
  • Gofalu am y deunyddiau archif presennol a chynhyrchu rhai newydd a sefydlu llyfrgell newydd lle gall y cyhoedd eu gweld
  • Interniaethau a chyfleoedd i ddatblygu sgiliau a gwirfoddoli ar draws yr ystod gyfan o waith y sefydliad

Yn haf 2019 – yn fuan ar ôl dathlu ein 40fed pen-blwydd – symudodd Ffotogallery yn derfynol i’w gartref newydd yn Cathays, Caerdydd. Ein huchelgais yw creu man canolog newydd dynamig i ffotograffwyr, artistiaid a phawb sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth ac sy’n frwdfrydig amdano. Rydym yn ystyried y symudiad hwn yn gychwyniad cyfnod cyffrous a gweddnewidiol yn ein hanes - ac mae’r pandemig presennol wedi cryfhau ein penderfynoldeb ymhellach i ddatblygu a darparu rhaglen uchelgeisiol ac effeithiol i’r gynulleidfa ehangaf bosibl.

I gwblhau’r gwaith hwn rydym wedi bod yn gweithio i gryfhau ein Bwrdd, ac yn awr rydym eisiau penodi trysorydd i’n helpu i siapio a hogi ein strategaethau ariannol. Rydym yn chwilio am unigolyn fydd yn gallu ein helpu i gyflawni gweledigaeth strategol dymor hir newydd i’r sefydliad wrth i ni geisio datblygu model busnes sy’n adfer y sefydliad i safle cryf, yn cyflawni ei botensial ac yn galluogi i’w gronfeydd rhydd dyfu.

Rhedir y cwmni gan dîm bychan, dan arweiniad y Cyfarwyddwr, David Drake. Rydym yn gweithio’n rheolaidd gyda ffotograffwyr, artistiaid ac ymarferwyr creadigol yn ogystal ag amrywiaeth eang o sefydliadau partner i ddarparu ystod gyfan ein gwaith.

Mae Ffotogallery yn gwmni nid-er-elw wedi’i gyfyngu trwy warant ac mae’n elusen gofrestredig sy’n derbyn ariannu blynyddol gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac arian project o amrywiaeth o ffynonellau cenedlaethol a rhyngwladol.

I gael rhagor o wybodaeth amdanom ni a’n gweithgareddau, ewch i wefan Ffotogallery ar www.ffotogallery.org



Ymddiriedolwyr a’r Trysorydd

Mae gan bob ymddiriedolwr gyfrifoldeb i sicrhau bod yr elusen yn gweithredu’r dibenion y cafodd ei sefydlu i’w cyflawni. Mae hyn yn golygu y dylai’r ymddiriedolwyr:

  • Sicrhau eu bod yn deall diben yr elusen fel y mae wedi ei nodi yn ei dogfen lywodraethol
  • Gynllunio’r hyn y bydd yr elusen yn ei wneud, a’r hyn maen nhw eisiau iddi ei gyflawni
  • Allu esbonio sut y bwriedir i weithgareddau’r elusen ddatblygu neu gefnogi ei dibenion
  • Ddeall sut mae’r elusen o fudd i’r cyhoedd drwy weithredu ei dibenion
  • Sicrhau bod yr elusen yn cydymffurfio â’i dogfen lywodraethu a gofynion y gyfraith elusennau

Disgwylir i’r holl ymddiriedolwyr weithredu’n gyfrifol ac yn rhesymol a defnyddio beirniadaeth gadarn wrth reoli asedau’r elusen, gan osgoi risgiau a niwed i enw da a sicrhau atebolrwydd pan fydd tasgau a phenderfyniadau’n cael eu dirprwyo i staff neu wirfoddolwyr.

Mae’r trysorydd yn ymddiriedolwr sydd â rôl benodol ar y bwrdd. Etholir neu penodir y trysorydd i’r rôl hon yn ôl y drefn a ddisgrifir yn nogfen lywodraethu’r elusen. Ni all y trysorydd gymryd rhai dyletswyddau penodol heblaw bod y Bwrdd wedi rhoi caniatâd.

Yn gyffredinol, mae’r trysorydd yn helpu’r ymddiriedolwyr i gyflawni eu cyfrifoldebau ariannol. Gall wneud hynny fel a ganlyn:

  • cyflwyno adroddiadau ariannol i’r bwrdd mewn fformat sy’n helpu’r bwrdd i ddeall sefyllfa ariannol yr elusen
  • cynghori’r bwrdd ynglŷn â sut i weithredu ei gyfrifoldebau ariannol
  • cysylltu gyda’r Cyfarwyddwr a chynghorwyr proffesiynol
  • goruchwylio’r gwaith o baratoi a chraffu ar y cyfrifon blynyddol
  • sicrhau y cedwir cofnodion cyfrifo cywir, a bod yr adnoddau ariannol yn cael eu buddsoddi’n gywir a’u gwario’n ddarbodus
  • cadeirio unrhyw is-grwpiau ariannol ac adrodd yn ôl i’r Bwrdd.

Am ba nodweddion ydyn ni’n chwilio?

  • Cefndir ariannol cryf (byddai cymhwyster mewn cyfrifyddiaeth yn fanteisiol)
  • Ymrwymiad i’r sefydliad a’i amcanion, ac i’n partneriaid a’r cymunedau a wasanaethwn
  • Parodrwydd i neilltuo’r amser a’r ymdrech sy’n angenrheidiol
  • Beirniadaeth annibynnol, dda a gweledigaeth strategol
  • Y gallu i feddwl yn greadigol
  • Parodrwydd i leisio eu barn
  • Derbyniad a dealltwriaeth o’r dyletswyddau cyfreithiol, y cyfrifoldebau a’r rhwymedigaethau o fod yn ymddiriedolwr
  • Y gallu i weithio’n effeithiol fel aelod o dîm.



Beth yw gofynion y rôl?

Mae ein Bwrdd Ymddiriedolwyr yn cwrdd rhwng pedair a chwe gwaith y flwyddyn (gan gynnwys Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol), naill ai yng Nghaerdydd neu drwy fideo-gynadledda. Mae pob cyfarfod yn para oddeutu 2 awr. Rydym hefyd yn cynnal Diwrnod Allan i’r Bwrdd bob blwyddyn. Gallai’r cyfarfodydd hyn olygu bod angen amser ychwanegol i ddarllen dogfennau paratoi cefnogol ar gyfer cyflwyniad.

Bydd cyfleoedd hefyd i fynd i amrywiaeth o ddigwyddiadau yn ein prif oriel ac mewn lleoliadau eraill sy’n gysylltiedig â’n gwaith partneriaeth. Cewch eich annog hefyd i roi gwybod amdanom i bobl ymysg eich rhwydweithiau eich hun, er mwyn helpu i sicrhau bod cymaint o bobl ag sy’n bosib yn cael mwynhau ein gwaith.

Gall Ffotogallery ad-dalu treuliau allan o boced i ymddiriedolwyr.

Etholir ymddiriedolwyr i wasanaethu am gyfnod o dair blynedd. Ymhob Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol bydd y rheiny sydd wedi gwasanaethu am dair blynedd yn ymddeol o’u swydd neu’n sefyll am ail etholiad. Gall yr ymddiriedolwyr wasanaethu am uchafswm o dri thymor (h.y. 9 mlynedd)

Pa wahaniaeth wnewch chi?

Mae aelodau’r Bwrdd yn chwarae rôl bwysig o ran sicrhau bod y sefydliad yn cael ei lywodraethu’n dda, yn ogystal â bod yn llysgenhadon i waith y sefydliad a ffotograffiaeth yng Nghymru.

Mae Ffotogallery yn gwmni sefydledig yn y maes celfyddydau gweledol, sydd â hanes cryf o ddarparu rhaglenni cyffrous a diddorol mewn ffotograffiaeth a chyfryngau’r lens. Rydym yn cychwyn cyfnod cyffrous – a heriol heb os - yn ein hanes ac mae hwn yn gyfle gwych i ddylanwadu ar siapio gweledigaeth a strategaeth y blynyddoedd nesaf.

Rydym yn chwilio am unigolion ymroddedig a fydd yn gallu cyfrannu at lwyddiant tymor hir Ffotogallery. Rydym hefyd eisiau adeiladu Bwrdd Ymddiriedolwyr amrywiol sy’n adlewyrchu’r cymunedau lle mae’n gweithio. Gall amrywiaeth gwmpasu pob math o nodweddion yn cynnwys oed, rhyw, ethnigrwydd, anabledd, rhywioldeb, crefydd, cenedligrwydd, profiad a sgiliau. Croesawn geisiadau gan unigolion o bob cefndir a byddem yn annog yn arbennig geisiadau gan ymgeiswyr anabl neu Ddu, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.


Sut i wneud cais

Cyflwynwch CV a nodyn esboniadol os gwelwch yn dda sy’n amlinellu eich diddordeb yn y rôl ac unrhyw brofiad perthnasol sydd gennych. Dylech anfon unrhyw ymholiadau am y swydd a’r ceisiadau ar yr e-bost at Alex Butler ar [email protected].

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30 Hydref 2020, 5pm