Sianel / 8 Meh 2020

Mae The Place I Call Home yn Ailagor

Mae’n bleser mawr gan Ffotogallery gyhoeddi bod ein harddangosfa deithiol The Place I Call Home wedi ailagor i’r cyhoedd yng Nghanolfan Gelfyddyd Maraya, Sharjah, yr Emiraethau Arabaidd Unedig. Mae cyfnod yr arddangosfa wedi ymestyn hyd 31 Awst 2020, a bydd pob ymwelydd â’r adeilad yn gorfod cadw pellter cymdeithasol a chadw at ganllawiau iechyd cyhoeddus tynn. Mae Canolfan Gelfyddydau Maraya wedi cynhyrchu fideo defnyddiol yn dangos sut mae’r mesurau rhagofalus hyn yn cael eu gweithredu yn eu horielau, heb amharu ar ansawdd y profiad i’r ymwelwyr.

Mwy o wybodaeth.