Sianel / 7 Mai 2020

The Place I Call Home yr Emiraethau Arabaidd Unedig – Cerdded Drwyddo’n Rhithwir

Yn dilyn cyflwyno’r canllawiau lleol am yr argyfwng Coronafeirws presennol, mae’r arddangosfa yng Nghanolfan Gelfyddydau Maraya ar gau i’r cyhoedd ar hyn o bryd. I adael i bobl weld y sioe ar-lein, mae ein partneriaid yn Sharjah wedi cynhyrchu taith gerdded rithwir 360° drwy’r arddangosfa ar-lein fel eich bod yn gallu ymweld â hi o’ch cadair esmwyth.

Mae dyddiadau’r arddangosfa wedi eu hymestyn erbyn hyn felly, pan fydd yr oriel yn ail agor bydd amser ar ôl o hyd i chi ymweld yn bersonol. Gwiriwch wefan y safle i gael rhagor o fanylion.