Sianel / 19 Meh 2020

Cyfle i ffotograffwyr o India a Chymru

Mae’r Chennai Photo Biennale Foundation, mewn cydweithrediad â Gŵyl Diffusion-Cymru a gyda chefnogaeth y British Council a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn cyhoeddi Galwad Agored ar gyfer dyfarnu grant i artistiaid cyfryngau’r lens a ffotograffwyr preswyl o India a Chymru i gyflwyno cynigion ar y thema – DYCHMYGU’R GENEDL-WLADWRIAETH. Mae’r cydweithredu hwn wedi galluogi cyfanswm o bedwar dyfarniad grant – i ffotograffwyr/artistiaid cyfryngau’r lens, dau o India a dau o Gymru – i gynhyrchu gwaith ar sail cynigion a gyflwynir drwy’r alwad agored. Bydd y gweithiau a gynhyrchir gan y pedwar artist yn cael eu harddangos yn yr ŵyl Diffusion nesaf yn Hydref 2021. Mae’r gwaith yn debygol o gael ei arddangos hefyd mewn cyfrol ddilynol o’r Chennai Photo Biennale ar yr amod bod cyllid ar gael ynghyd â rhagor o gymorth grant.

Gwahoddir ymgeiswyr i gymryd rhan yn y broses o gynhyrchu dychmygion perthnasol parhaus a chyfredol am y syniad o genedl-wladwriaeth.

I gael rhagor o fanylion am y grant, meini prawf cymhwysedd, a gwybodaeth, ewch i chennaiphotobiennale.com

Gwnaed hyn yn bosibl gan y grant Cysylltiadau drwy Ddiwylliant: India-Cymru 2020 gan y British Council a ddyfarnwyd i’r Chennai Photo Biennale Foundation a’i bartner yng Nghymru, Diffusion: Gŵyl Ffotograffiaeth Ryngwladol Caerdydd, sef digwyddiad dwyflynyddol sydd dan ofal, ac yn cael ei redeg gan, Ffotogallery Cymru.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 30 Awst 2020, 11.59pm IST (7.59pm GMT)