Sianel / 20 Rhag 2018

Edrych yn ôl, Edrych ymlaen

Ym mis Medi 1978, agorodd oriel gyntaf Cymru ar gyfer ffotograffiaeth yn benodol yn Heol Charles, Caerdydd, o dan yr enw Yr Oriel Ffotograffeg. Gan newid ei henw i Ffotogallery ym 1981, mae’n dal i ffynnu ddeugain mlynedd yn ddiweddarach ac mae wrthi bellach yn sefydlu canolfan newydd yng nghanol dinas Caerdydd.

Y flwyddyn hon, dathlon ein cyrraeddiad at y garreg filltir honna, diolch i’r llyfr Chronicle ac i’r arddangosfa. Mae Chronicle yn defnyddio deunydd archifol a chyfoes i adrodd sut y datblygodd Ffotogallery dros y deugain mlynedd hwnnw, yn erbyn cefnlen o newidiadau seismig yn natur a swyddogaeth ffotograffiaeth mewn cymdeithas, a thwf y diwylliant digidol.

Gyda mynd a dod cyllid cyhoeddus a phreifat y celfyddydau, rydym wedi croesawu cyfleoedd digidol a wedi cyfrannu’n fawr at ystod o waith creadigol. Mae creadigrwydd digidol wedi’i integreiddio’n llawn â gwaith comisiynu, arddangos, cyhoeddi ac addysgu parhaus, ochr yn ochr â’r arferion ffotograffig a chyfryngau ‘drwy’r lens’ mwy traddodiadol y mae Ffotogallery yn enwog amdanynt.

Y flwyddyn hon, rydym wedi darparu cyfleoedd gwaith newydd i artistiaid cymraeg y dyfodol ac interniaethau ym maesiau arddangosfeydd a digwyddiadau arbennig, addysg ac ymrwymiad, y cyfryngau, archifau, a marchnata a chyfathrebu. Cyflwynon waith Clementine Schneidermann, I Called Her Lisa-Marie, yn Dresden, ynghyd a chasgliad cyntaf yr artist Fflemeg anhygoel, Katrien de Blauwer o’r enw Reprise. Dangosir ei chasgliad am y tro cyntaf yma yng Nghymru. Dyma oedd ei Mae dwy arddangosfa deithiol a gychwynodd eu taith yn Ffotogallery, Land/Sea Mike Perry a 1968: The Fire of Ideas Marcelo Brodsky, yn teithio’n estynedig drwy Ewrop gyda chyflwyniadau yn Llandudno, Aberystwyth, Plymouth, Lorient, Glasgow, Lyon, Zaragoza a Kaunas.

Gydag arian gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru drwy’r fenter India-Cymru, darparodd Ffotogallery Dreamtigers, sef prosiect dwy flynedd lle mae artistiaid a phobl broffesiynol ddiwylliannol o India a Chymru yn cydweithio i greu a chyflwyno gwaith newydd sy’n adlewyrchu sut mae creadigedd, technoleg a theimlad newydd o hunaniaeth genedlaethol yn siapio bywydau cenedlaethau’r dyfodol mewn cymdeithas wedi’i globaleiddio.

Mae’r sefydliad wedi derbyn arian gan yr Undeb Ewropeaidd am ddwy flynedd o dan y rhaglen Ewrop Greadigol i arwain A Woman’s Work, prosiect gydweithredol gyda phartneriaid yn Iwerddon, Ffrainc, Lithwania a’r Ffindir. Mae’r prosiect yn archwilio, drwy ffotograffiaeth a chyfryngau digidol, rôl merched mewn diwydiant a gwaith ar sail technoleg yn Ewrop ar ôl y rhyfel, gan herio’r farn ddominyddol am rywiau a diwydiant yn Ewrop.

Yn 2018, sicrhaodd Ffotogallery gontract curadurol dwy flynedd i ddarparu The Place I Call Home, sef arddangosfa deithiol a gomisiynwyd gan Gyngor Prydeinig Abu Dhabi sy’n defnyddio ffotograffiaeth a chyfryngau drwy lens i archwilio’r syniad o gartref fel y mae’n berthnasol i brofiadau cyfoes y bobl wasgaredig Arabaidd sy’n byw yn y Deyrnas Unedig a phobl Brydeinig sy’n byw yn y Gwlff.

Thema Diffusion 2019 yw Sain+Llun. Bydd yr ŵyl yn archwilio’r berthynas rhwng sain, ffotograffiaeth a chyfryngau lens a sut mae sain yn dylanwadu ar y ffordd y caiff delweddau eu cyfryngu, cyflwyno a’u darllen yn ein diwylliant gweledol cyfoes; ac yn yr un modd, sut y gall cerddoriaeth fod yn brofiad gweledol yn ogystal â chlywedol.

Mae’r ffaith fod Ffotogallery yn ffynnu, yn hytrach na dim ond goroesi, ar ôl pedwar degawd yn adlewyrchu ymroddiad y staff, y gwirfoddolwyr, yr aelodau a’r cefnogwyr, y ffotograffwyr niferus, yr artistiaid a phartneriaid y mae’r sefydliad wedi gweithio â nhw dros y blynyddoedd, a’r brwdfrydedd am ffotograffiaeth a chyfryngau ‘drwy’r lens’ y mae cynulleidfaoedd a chyfranogwyr wedi’i dangos.

Yn fwy na dim, mae’n amlygu’r cyfraniad pwysig y bydd Ffotogallery yn ei wneud i ddyfodol Caerdydd a Chymru, fel dinas ac fel cenedl sydd ag asedau diwylliannol cyfoethog ac amrywiol a sector creadigol arloesol.

David Drake
Cyfarwyddwr, Ffotogallery